Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
HSC(4)-03-12 papur 5
Modelau perchnogaeth ar gyfer gofal preswyl i’r henoed yn aelod wladwriaethau’r UE
Camau dilynol i’w cymryd o gyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 8 Rhagfyr 2011
Mewn cyfarfod o’r Pwyllgor ar 8 Rhagfyr 2011 gofynnodd Mick Antoniw AC am wybodaeth am y gwahanol systemau perchnogaeth o ddarpariaeth gofal sy’n bodoli drwy’r UE.
Y ddarpariaeth o wasanaethau gofal hirdymor ar gyfer yr henoed gan sectorau yn aelod wladwriaethau’r UE
Ers mis Ionawr 2009, mae partneriaid o 20 o aelod wladwriaethau’r UE wedi datblygu’r prosiect ymchwil Assessing Needs of Care in European Nations [1] (ANCIEN), sydd wedi edrych ar wahanol systemau gofal hirdymor ar gyfer yr henoed mewn 21 o aelod wladwriaethau. Un o’r ardaloedd a edrychwyd arni yn y prosiect ymchwil oedd a yw systemau gofal hirdymor yn aelod wladwriaethau’r UE yn cael eu darparu a’u hariannu’n bennaf gan y sector cyhoeddus neu’r sector preifat. Mae adroddiadau sy’n darparu rhagor o fanylion am systemau gofal hirdymor o fewn aelod wladwriaethau unigol ar gael ar wefan ANCIEN.[2]
Mae astudiaeth gan ddau ymchwilydd a oedd ynghlwm â phrosiect ANCIEN yn rhoi amcangyfrif o ddarpariaeth gyhoeddus a phreifat (gan gynnwys darpariaeth ddi-elw) gwasanaethau gofal hirdymor ar draws 13 o aelod wladwriaethau’r UE. Mae ffigwr 1 isod yn dangos lefel y ddarpariaeth sector preifat o ofal yn y cartref a gofal sefydliadol yn yr aelod wladwriaethau hyn.
Ffigwr 1: Amcangyfrif o gyfran darpariaeth gyhoeddus/preifat gwasanaethau gofal hirdymor ffurfiol ar gyfer gofal sefydliadol a gofal yn y cartref, 2010
Ffynhonnell: Riedel, M. a Kraus, M, The Organisation of Formal Long-Term Care for the Elderly: Results from the 21 European Country Studies in the ANCIEN Project <http://www.ceps.be/ceps/download/6332>, tudalen 16, Tachwedd 2011 [fel ar 10 Ionawr 2012]
Allwedd: AUT=Awstria, BEL=Gwlad Belg, DEN=Denmarc, ENG=Lloegr, ESP=Sbaen, EST=Estonia, FIN=Y Ffindir, FRA=Ffrainc, GER=Yr Almaen, HUN=Hwngari, NED=Yr Iseldiroedd, SLO=Slofenia, SLK=Slofacia
Gellir gweld o Ffigwr 1 bod gwahaniaethau yng nghyfran y gofal hirdymor a ddarperir gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat ar draws aelod wladwriaethau’r UE. Yn yr Iseldiroedd darperir y gofal hirdymor bron i gyd gan y sector preifat, a darperir y rhan fwyaf o ofal sefydliadol gan y sector preifat di-elw.[3] Yn yr Almaen y sector preifat di-elw sy’n darparu’r rhan fwyaf o wasanaethau gofal hirdymor sefydliadol ac yn y cartref, er bod Riedel a Kraus yn nodi bod gofal hirdymor yn cael ei ddarparu fwy fwy gan gwmnïau sector preifat sy’n gwneud elw yn yr Almaen.[4]
Defnyddir Denmarc, Y Ffindir a Sweden fel enghreifftiau o’r system les Sgandinafaidd, sydd â lefelau uchel nodweddiadol o ddarpariaeth gyhoeddus o wasanaethau. O’r gwledydd eraill sydd wedi’u cynnwys yn astudiaeth ANCIEN, yr unig un â lefel gymharol o berchnogaeth gyhoeddus o ran darparu gofal hirdymor yw Slofenia. Yn y gwledydd hyn, ymddengys bod llai o ddewis o ddarparwyr nag yn aelod wladwriaethau eraill yr UE.[5]
Yn nodweddiadol, mae darpariaeth breifat yn chwarae rôl lai mewn gofal sefydliadol na gofal yn y cartref ar draws aelod wladwriaethau’r UE, ac mae Riedel a Kraus yn nodi mai dyma’r achos yn arbennig yn aelod wladwriaethau mwyaf newydd yr UE, gan nodi Slofacia fel enghraifft.
Mae astudiaeth gan Reimat (2009) yn darparu mwy o fanylion am bwysau gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau di-elw a gwasanaethau gwneud elw ar gyfer 7 o aelod wladwriaethau’r UE (Y Weriniaeth Tsiec, Ffrainc, Yr Almaen, Yr Eidal, Yr Iseldiroedd, Sweden a’r Deyrnas Unedig), a darperir hyn isod yn Ffigwr 2. Gellir gweld mai, o’r saith aelod wladwriaeth hyn, y DU sydd â’r gyfran uchaf o wasanaethau gwneud elw yn y sector preifat sy’n darparu gofal hirdymor.
Ffigwr 2: Pwysau gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau di-elw a gwasanaethau gwneud elw mewn darpariaeth gofal hirdymor, 2006
Ffynhonnell: Reimat, A., Welfare regimes and long-term care for elderly people in Europe <http://soc.kuleuven.be/ceso/impalla/ESPANET/docs/Reimat_paper.pdf>, Mawrth 2009 [fel ar 10 Ionawr 2012]
Mathau o fodelau gofal hirdymor yn aelod wladwriaethau’r UE
Edrychodd Kraus et al ar ddwy wahanol ffordd o gategoreiddio’r gwahanol agweddau tuag at ofal hirdymor i’r henoed yn aelod wladwriaethau’r UE mewn astudiaeth ddiweddar.[6]
Y ffordd gyntaf iddynt ei chanfod ar gyfer categoreiddio aelod wladwriaethau oedd yn ôl y ffordd y caiff gofal ei drefnu a’i ariannu ar draws 21 o wahanol genhedloedd lle’r oedd data ansoddol ar gael. Roedd yr amrywiadau a gafodd eu cynnwys wrth asesu trefn y gofal yn cynnwys gwybodaeth am hawl i wasanaethau, argaeledd budd-daliadau ariannol, dewis o ddarparwyr, sicrhau ansawdd ac integreiddio gofal. Ymhlith y mesurau a ddefnyddiwyd i asesu’r dull o ariannu systemau gofal hirdymor ar gyfer yr henoed roedd gwariant cyhoeddus ar gyfer gofal hirdymor fel cyfran o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth a rhannu costau Mae’r pedwar clwstwr o wledydd a nodwyd gan Kraus et al gan ddefnyddio’r dull hwn wedi’u nodi yn Nhabl 1.
Tabl 1: Mathau o systemau gofal hirdymor ar gyfer yr henoed yn aelod wladwriaethau’r UE yn seiliedig ar drefnu ac ariannu gofal hirdymor
Gwledydd yn y clwstwr |
Nodweddion y system gofal hirdymor |
Gwlad Belg, Denmarc, Ffrainc, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Sweden |
System drefniadol ddatblygedig iawn gyda lefelau cymharol uchel o ariannu cyhoeddus. |
Awstria, Lloegr, Y Ffindir, Yr Eidal, Latfia, Sbaen, Slofenia |
System drefniadol wedi’i datblygu’n gymedrol gyda lefelau cymedrol o ariannu cyhoeddus. |
Bwlgaria, Y Weriniaeth Tsiec, Estonia, Slofacia |
System drefniadol ddatblygedig iawn gyda lefelau cymharol isel o ariannu cyhoeddus. |
Hwngari, Lithwania, Gwlad Pwyl, Rwmania |
System drefniadol lai datblygedig gyda lefelau cymharol isel o ariannu cyhoeddus. |
Ffynhonnell: Kraus, M. et al, How European nations care for their elderly: A new typology of long-term care systems, Gorffennaf 2011 [fel ar 10 Ionawr 2012]
Roedd yr ail ddull a ddefnyddiwyd gan Kraus et al yn ystyried gwariant cyhoeddus ar ofal hirdymor fel cyfran o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth, gwariant preifat fel cyfran o wariant ar ofal hirdymor, derbynwyr gofal anffurfiol 65 oed a throsodd fel canran o’r boblogaeth 65 oed a throsodd a chymorth ar gyfer gofal anffurfiol. Cafwyd canlyniadau ar gyfer 14 o wledydd lle’r oedd data meintiol ar gael. Mae’r clystyrau a nodwyd gan Kraus et al gan ddefnyddio’r dull hwn wedi’u nodi isod yn Nhabl 2.
Tabl 2: Mathau o systemau gofal hirdymor ar gyfer yr henoed yn aelod-wladwriaethau’r UE yn seiliedig ar y defnydd o ofal ac ariannu gofal hirdymor
Gwledydd yn y clwstwr |
Natur y system gofal hirdymor |
Nodweddion y system gofal hirdymor |
Gwlad Belg, Y Weriniaeth Tsiec, Yr Almaen, Slofacia |
Yn gogwyddo tuag at ofal anffurfiol. Lefelau isel o ariannu preifat. |
Gwariant cyhoeddus isel, gwariant preifat isel, defnydd uchel o ofal anffurfiol a chymorth, budd-daliadau ariannol gwylaidd. |
Denmarc, Yr Iseldiroedd, Sweden |
Hael, hygyrch ac wedi’u ffurfioli. |
Gwariant cyhoeddus uchel, gwariant preifat isel, defnydd isel o ofal anffurfiol, llawer o gymorth i ofal anffurfiol, budd-daliadau ariannol gwylaidd. |
Awstria, Lloegr, Y Ffindir, Ffrainc, Sbaen |
Yn gogwyddo tuag at ofal anffurfiol, lefelau uchel o ariannu preifat. |
Gwariant cyhoeddus cymedrol, lefelau uchel o wariant preifat, defnydd uchel o ofal anffurfiol a chymorth, budd-daliadau ariannol uchel. |
Hwngari a’r Eidal |
Ariannu preifat uchel, ymddengys bod gofal anffurfiol yn anghenraid. |
Gwariant cyhoeddus isel, ariannu preifat uchel, defnydd uchel o ofal anffurfiol, lefel isel o gymorth i ofal anffurfiol, budd-daliadau ariannol cymedrol. |
Ffynhonnell: Kraus, M. et al, How European nations care for their elderly: A new typology of long-term care systems, Gorffennaf 2011 [fel ar 10 Ionawr 2012]
[2] Assessing Needs of Care in European Nations, Most recent reports [fel ar 10 Ionawr 2012]
[3] Riedel, M. a Kraus, M, The Organisation of Formal Long-Term Care for the Elderly: Results from the 21 European Country Studies in the ANCIEN Project, tudalen 16, Tachwedd 2011 [fel ar10 Ionawr 2012]
[4] Ibid. tudalen 16
[5] Ibid. tudalen 23
[6] Kraus, M. et al, How European nations care for their elderly: A new typology of long-term care systems, Gorffennaf 2011 [fel ar 10 Ionawr 2012]